Dyddiad Cau: 23 Tachwedd 2018
Prosiect: Cywain
Lleoliad: Aberystwyth, Caerdydd/Cardiff neu/or Meifod
Adran: Datblygu Bwyd
Cyflog: 25,911 - 28,531
Gradd: 4
Rheolwr: Arweinydd Tm Clystyrau / Cluster Team Leader
Cytundeb: Ystyrir ceisiadau am swydd lawn neu ran amser (o leiaf 4 diwrnod yr wythnos/80%) / Applications for full or part-time working will be considered (at least 4 days per week/80%)
Sgiliau Ddwyieithog: Hanfodol
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â
Sioned Best
01938 530982

Swyddog Gweithredol y Clwstwr (dros dro)

Dyma gyfle gwych i weithio yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dwf yr economi Gymreig.

Yn dilyn datblygiad gyrfa o fewny prosiect, mae Cywain yn chwilio am Swyddog Gweithredol y Clwstwr i ymuno a’r tîm dros gyfnod mamolaeth.

 

Noder os gwelwch yn dda:  Mae'n angenrheidiol i ddeilydd y swydd siarad Cymraeg

 

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Hydref 2022.

 

Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid.

 

Mae tair elfen i’r prosiect:

  • Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
  • Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
  • Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd

 

Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn amrywiol, o ymdrin â phroblemau sy’n bodoli o fewn y busnes sy’n effeithio ar dyfiant neu allu cystadleuol, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chynyddu’r marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli.

 

Mae Menter a Busnes wedi bod yn defnyddio’r fethodoleg glystyru ers 2015 fel cynllun peilot mewn partneriaeth ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a Bwyd Môr.

 

Nod y Rôl  

Nod y rôl hon yw cefnogi Rheolwr y Clwstwr i: 

  • sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn cael eu gweithredu o fewn yr amser gofynnol ac o fewn y gyllideb
  • cynllunio digwyddiadau a gweithdai, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol a bod digonedd o bobl o’r gynulleidfa darged yn dod iddynt
  • gwneud gwaith ymchwil sylfaenol i’r farchnad ac ymateb i ymholiadau busnes cyffredinol
  • sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â systemau a pholisïau prosiect perthnasol
  • rhyngweithio a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth

 

Prif Gyfrifoldebau

  • Sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hateb ar sail dealltwriaeth glir o anghenion busnesau
  • Ymdrin ag ymholiadau o nifer o ffynonellau yn cynnwys buddiolwyr presennol a newydd, rhanddeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prynwyr a rhaglenni/sefydliadau cefnogi busnes eraill
  • Gweithio’n agos â Rheolwr y Clwstwr i ganfod, sefydlu, adolygu/aildrefnu amseriadau darparu prosiectau unigol y Clwstwr, a chadw ffocws y darparwyr cefnogaeth ar ganlyniadau’r ymyriad. Gall y rhain gynnwys cefnogaeth a brynwyd yn allanol a chefnogaeth y sector cyhoeddus a phreifat
  • Cefnogi dyheadau cwmnïau bwyd a diod ynghylch tyfiant drwy ddatblygu dealltwriaeth o elfennau allweddol cynllun tyfu’r busnes yn arbennig mewn datblygu masnach a busnes
  • Darparu gwybodaeth ragorol am y tirlun cefnogi busnes lleol/rhanbarthol - yn cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a thrydydd sector/sector preifat
  • Trefnu gweithdai a digwyddiadau yn ôl yr angen gan gynnwys mynychu rhai lle bo angen a gwneud gwaith dilynol wedyn
  • Gweithio’n agos â’r Swyddog Marchnata i ddarparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwefan y prosiect a sianelau cyfryngau cymdeithasol
  • Casglu tystiolaeth o foddhad y cleient yn unol â’n System Rheoli Ansawdd
  • Monitro cynnydd yn fanwl gywir yn erbyn deilliannau ansoddol a meintiol, darparu adroddiad am gynnydd i’r Rheolwr Clwstwr
  • Sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data briodol
  • Cadw cofnodion yn effeithiol mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion ariannu Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd y cynnyrch
  • Mynd i gyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect fel y bo’r gofyn

 

Ymchwilio a Monitro 

  • Cefnogi Rheolwr y Clwstwr i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth y cleient.
  • Mewnbynnu data’n gywir
  • Monitro, adolygu ac adrodd yn gywir am weithgareddau prosiect, a sicrhau bod unrhyw waith a brynir gan gontractwyr trydydd parti’n cael eu cwblhau a’u hanfonebu’n brydlon
  • Dadansoddi llwyddiant y prosiect i gyflawni ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
  • Cefnogi Rheolwr y Clwstwr drwy fynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid fel y bo’r gofyn i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
  • Sicrhau bod systemau CRM a rheoli’r prosiect yn cael eu cynnal ac yn gyfredol, effeithiol ac yn cydymffurfio gyda gofynion yr Archwiliad perthnasol
  • Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau/digwyddiadau
  • Casglu a darparu cefnogaeth fusnes ranbarthol a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig i gynnwys data lleol sy’n cynnwys argaeledd cyllido preifat a chyhoeddus

 

Arall

  • Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd, gwasanaeth y cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
  • Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’r gofyn
  • Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’r gofyn

 

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

  • Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a/neu brofiad gwaith y gellir dangos tystiolaeth ohono mewn maes perthnasol
  • Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, ar yr e-bost neu dros y ffôn
  • Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
  • Dealltwriaeth dda neu brofiad da o’r sector amaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
  • Profiad o drefnu arddangosiadau a digwyddiadau
  • Gallu asesu a deall yn glir anghenion busnesau, eu cefnogaeth a’u gofynion mentora
  • Deall cyfrifon cwmnïau a chynlluniau busnes
  • Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau rhagorol ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o bobl a allai ddod yn fuddiolwyr i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner
  • Person hunanysgogol a rhagweithiol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer
  • Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
  • Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
  • Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
  • Sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol, yn cynnwys sgiliau cyflwyno, llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
  • Sgiliau Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Cronfeydd Data, E-bost a’r We
  • Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio (noder: os lleolir yn un o swyddfeydd eraill Menter a Busnes, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i swyddfa Meifod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ystod y chwe mis cyntaf)
  • Ar gael i weithio yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol

 

Manteisiol

  • Profiad o weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata
  • Profiad o reoli prosiectau

 

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Sioned Best ar 01938 530 982.

 

Cyfweliadau

Bydd y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth ar ddydd Mercher 28 Tachwedd 2018.  Os na yw'r dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.

Lleoliad

Aberystwyth, Caerdydd/Cardiff neu/or Meifod.

Mwy o Wybodaeth

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â

Sioned Best
01938 530982
sioned.best@menterabusnes.co.uk

Gwneud Cais

Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal, ar gael isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma naill ai:

  • dros ebost at: swyddi@menterabusnes.co.uk
  • neu drwy ddanfon at:  Adran Adnoddau Dynol, Menter a Busnes, Uned 3, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 23 Tachwedd 2018 am 10:00

Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth

Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth yn y ddogfen isod.