Rheolwr Datblygu Deallusrwydd y Farchnad a Llwybrau i r Farchnad (Twristiaeth a Lletygarwch)
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Hydref 2022.
Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Nod
-
Arwain ar ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth gyda’n cleientiaid o’r cyfleoedd busnes potensial o fewn y sector dwristiaeth a lletygarwch
-
Arwain ar strategaeth genedlaethol a rhaglen ledled Cymru a thu hwnt gan adnabod a chydlynu presenoldeb mewn digwyddiadau addas sydd wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd o ddefnyddwyr, masnach a phrynwyr ar gyfer codi proffil cynnyrch a brandiau mewn modd rhagweithiol
-
Cyd-weithio gydag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru i sicrhau ein bod yn cyfrannu tuag at flaenoriaethau polisi yn y maes twristiaeth bwyd, adnabod cyfleoedd i hyrwyddo’r sector bwyd a diod o fewn y sector dwristiaeth ac yn ategu gwerth at raglenni gwaith presennol
Prif Gyfrifoldebau
Darparu Gwasanaethau
-
Meithrin perthynas agos gyda gweddill y tîm, cynhyrchwyr a phroseswyr lle’n briodol i adnabod eu hanghenion ar gyfer twf
-
Recriwtio grwpiau ac unigolion o ar draws y gadwyn gyflenwi i fynychu digwyddiadau a gweithdai gyda ffocws ar botensial ar gyfer twf a chreu swyddi
-
Gweithio gyda grwpiau o gynhyrchwyr, ac unigolion, i adnabod a datblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd sy’n addas ar gyfer y sector dwristiaeth
-
Cydlynu gweithgaredd, gweithdai a digwyddiadau yn ogystal â rhannu gwybodaeth am y sector dwristiaeth a’r cyfleoedd potensial i fusnesau
-
Creu cysylltiadau da gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch a datblygu marchnadoedd newydd i sicrhau darpariaeth gydlynol
-
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Prosiect ac unrhyw Reolwyr Datblygu eraill i gynllunio, rheoli a gweithredu portffolio o ddigwyddiadau/arddangosfeydd a theithiau astudio mewn modd proffesiynol, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau cynnwys perthnasol a deniadol
-
Adnabod anghenion, cynllunio a chynghori busnes ar eu datblygiad, gan gyfeirio at ffynonellau o gefnogaeth lle’n briodol
-
Rheoli/Monitro’r gyllideb a osodwyd gan yr Arweinydd Tîm, gan sicrhau gwerth am arian a darpariaeth gydlynol lle bo hynny’n bosib
Deallusrwydd a Llwybrau i’r Farchnad Dwristiaeth
-
Adnabod, ymchwilio a cheisio cael mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad dwristiaeth sy'n berthnasol ac yn addas ar gyfer anghenion y buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol
-
Datblygu a throsglwyddo gwybodaeth yn ymwneud â deallusrwydd y farchnad dwristiaeth i'r gynulleidfa darged ledled Cymru
-
Datblygu a darparu digwyddiadau addysgiadol yn seiliedig ar weithdai ynglŷn â llwybrau i'r farchnad dwristiaeth er mwyn hwyluso twf busnesau
-
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Swyddog Marchnata i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo ac yn cael eu hanelu at y gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol
-
Darparu cefnogaeth ddilynol i fusnesau a hwyluso datrysiadau er mwyn sicrhau mynediad effeithiol i’r farchnad
-
Sicrhau darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect
Monitro a Gwerthuso
-
Cadw cofnodion manwl o bob gweithgaredd a gwaith papur er mwyn sicrhau monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru
-
Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd pecynnau gwaith, a fydd yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a ddarparwyd
-
Monitro, adolygu a chynhyrchu adroddiadau ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
-
Cydymffurfio gyda gofynion ariannol a gwariant y prosiect gan lynu at ganllawiau pwrcasu’r rhaglen
Arall
-
Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chynnig mewnbwn i aseiniadau bwyd cysylltiedig a gwblheir gan Menter a Busnes yn ôl y galw
-
Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
-
Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth, neu brofiad perthnasol ym maes datblygiad bwyd, marchnata, trefnu digwyddiadau neu bwnc perthnasol
-
Dealltwriaeth drylwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd newydd
-
Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
-
Sgiliau trefnu, rheoli a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad dangosadwy o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
-
Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn
-
Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
-
Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawddd gan roi ystyriaeth i anghenion y cwsmer
-
Gallu bod yn rhagweithiol a gyda'r brwdfrydedd i yrru pethau ymlaen yn effeithiol, boed hynny’n annibynnol neu fel rhan o dîm
-
Ymwybyddiaeth o safonau diogelwch bwyd a gofynion rheoleiddio’r diwydiant
-
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
-
Sgiliau technoleg gwybodaeth o safon uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
-
Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
-
Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol
Dymunol
-
Ymwybyddiaeth eang o ddatblygiad polisi bwyd-amaeth, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru
-
Gallu gwneud penderfyniadau anodd ac amserol er budd y busnes a/neu’r gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon addas yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, cyllidebau ac isgontractwyr mewn modd proffesiynol a gwrthrychol
Cyfweliadau
Lleoliad
Bangor, Llanelwy, Aberystwyth, Meifod neu/or Caerdydd .
Mwy o Wybodaeth
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â
Gwneud Cais
Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal, ar gael isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma naill ai:
- dros ebost at: swyddi@menterabusnes.co.uk
- neu drwy ddanfon at: Adran Adnoddau Dynol, Menter a Busnes, Uned 3, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH
Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 12 Rhagfyr 2019 am 10:00
Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth
Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth yn y ddogfen isod.