Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2019
Lleoliad: Aberystwyth, Meifod, Caerdydd neu Adref / Cardiff or Home
Adran: Bwyd
Cyflog: £32,300 - £34,320
Gradd: 5
Rheolwr: Rheolwr Prosiect EMFF / EMFF Project Manager
Cytundeb: Llawn amser / Full time
Sgiliau Ddwyieithog: Manteisiol
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ΓΆ
Caroline Dawson
01745 770272 / 07577 934106

Rheolwr Datblygu Bwyd Mor - De Cymru

Cefndir

Bydd y Rheolwr Datblygu Marchnadoedd Bwyd Môr yn gweithio ar draws dau o'n prosiectau cefnogi, sef Datblygu a Thyfu Marchnadoedd Bwyd Môr a Cywain, gan ddarparu cefnogaeth wedi'i deilwra i ddatblygu marchnadoedd newydd a phresennol ar gyfer busnesau bwyd môr.   

 

Prosiect Datblygu a Thyfu Marchnadoedd Bwyd Môr a Cywain

Mae Prosiect Datblygu a Thyfu Marchnadoedd Bwyd Môr yn fenter a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Menter a Busnes a Seafish, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae cyllid wedi’i sicrhau tan fis Hydref 2021. Nod yw prosiect yw datblygu’r farchnad ddomestig a rhyngwladol ar gyfer Bwyd Môr o Gymru, ynghyd â chynorthwyo busnesau bwyd môr presennol i ddiffinio brand bwyd môr clir, deall tueddiadau presennol ar y farchnad, cynyddu arbenigedd marchnata o fewn y sector ac annog llongau pysgota i sicrhau safon RFS (Cynllun Pysgota Cyfrifol). Bydd y Prosiect Datblygu a Thyfu Marchnadoedd Bwyd Môr Cymru yn cynnig cymorth i’r diwydiant drwy’r tair ffrwd ganlynol:  

 

  • Marchnata Uniongyrchol
  • Cefnogaeth Marchnata
  • Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd Môr

 

Cywain - Clwstwr Bwyd Môr Cymru

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn cychwyn cam newydd erbyn hyn ac rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Raglen Datblygu Gwledig 2014- 2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Hydref 2022.

 

Mae cefnogaeth ar gael er mwyn datblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a newyddion y diwydiant yn ogystal â chryfhau integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Darperir y gwasanaeth ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio trwy glystyrau, ychwanegu gwerth, datblygu marchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae’r dull cydlynol gyda phartneriaid darpariaeth yn allweddol ar gyfer datblygu cleientiaid. 

 

Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau maent yn gweithio arnynt yn amrywio, o fynd i’r afael â phroblemau sydd eisoes yn effeithio ar allu busnesau i gystadlu neu dyfu, i gyrraedd marchnadoedd newydd a datblygu marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli.

 

Mae Clwstwr Bwyd Môr Cymru yn dod ag ystod o bysgotwyr, gwerthwyr pysgod, proseswyr a busnesau dyframaeth sydd â chynnyrch o ansawdd uchel ac uchelgais i dyfu. Mae’r Clwstwr Bwyd Môr yn ymgysylltu â busnesau bwyd môr ledled Cymru ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau Bwyd a Diod Cymru ar gyfer masnachwyr a chwsmeriaid.

 

Nod y Rôl

Bydd y Rheolwr Datblygu Bwyd Môr Rhanbarthol yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gweithgareddau clwstwr a datblygu marchnadoedd bwyd môr ar draws rhanbarth De Cymru. Mae’r rôl yn allweddol er mwyn sicrhau bod y ddau brosiect yn cyflawni eu hamcanion trwy gydlynu gweithgareddau’r diwydiant, gan fynychu cyfarfodydd a rheoli digwyddiadau. Ynghyd ag annog proses ddatblygu’r clwstwr a sicrhau bod y fenter yn parhau i ddatblygu yn yr hir dymor.

 

Prif Gyfrifoldebau

  • Rheoli prosiectau gydag arweiniad gan y Rheolwr Prosiect
  • Gweithredu fel prif gyswllt, gan hybu a recriwtio unigolion a grwpiau i ymgysylltu gyda’r ddau brosiect, a meithrin perthynas agos gyda physgotwyr, gwerthwyr pysgod a busnesau dyframaeth, er mwyn adnabod eu gofynion
  • Sicrhau darpariaeth gwasanaethau’r prosiect i fusnesau ac aelodau’r clwstwr, yn ogystal â hwyluso cyfarfodydd clwstwr
  • Rheoli rhanddeiliaid a datblygu cysylltiadau cyfathrebu gydag unigolion, busnesau a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yn eich rhanbarth
  • Meithrin perthynas agos gyda chynhyrchwyr, proseswyr ac aelodau’r clwstwr i sicrhau bod unrhyw anghenion twf yn cael eu hadnabod a bod cefnogaeth berthnasol yn cael ei ddarparu, ynghyd ag atgyfeiriadau i ffynonellau eraill o wasanaethau busnes yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
  • Paratoi cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn a rheoli adnoddau o fewn cyllideb y ddau brosiect fel y nodwyd gan y Rheolwr Prosiect, gan sicrhau gwerth am arian a darpariaeth gydlynol ble bo hynny’n bosibl
  • Mynychu arddangosfeydd, sioeau masnach a digwyddiadau o fewn y diwydiant.
  • Ymchwilio i gyfleoedd cydweithio mewn gweithgareddau masnachol - allforio a masnach, cysylltu gyda digwyddiadau Bwyd a Diod Cymru
  • Cydlynu gweithgareddau’n ymwneud â diddordeb penodol a rhannu gwybodaeth sy’n deillio o weithgareddau clwstwr
  • Monitro a gwerthuso pob prosiect a sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion archwilio
  • Annog perchnogaeth o’r clwstwr a’i ddatblygiad trwy gydol y broses gefnogi gan yr aelodau
  • Gweithio’n agos gyda busnesau ac aelodau clwstwr i adnabod, cynllunio, rheoli a gweithredu portffolio o weithgareddau megis digwyddiadau/arddangosfeydd, teithiau astudio, gweithdai ayb, mewn modd proffesiynol, yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau cynnwys perthnasol a deniadol
  • Cynrychioli’r ddau brosiect mewn cyfarfodydd Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (FLAG)

 

Arall

  • Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
  • Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel bo’r angen
  • Cynrychioli Menter a Busnes mewn digwyddiadau fel bo’r angen

 

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

  • Addysg hyd lefel gradd, neu gyfwerth, neu’n uwch mewn pwnc perthnasol, a phrofiad dangosadwy mewn maes tebyg
  • Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid/busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn
  • Sgiliau cydlynu a threfnu o’r radd flaenaf
  • Profiad o drefnu gweithgareddau
  • Gallu asesu a deall anghenion busnes yn glir
  • Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
  • Person hunanysgogol, sy’n derbyn cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni ei waith a’i amcanion ei hun, gan ystyried gofynion y cwsmer
  • Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; yn meddwl yn synhwyrol, gan ddatgan manteision, anfanteision a risgiau opsiynau penodol
  • Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
  • Gallu bod yn rhagweithiol ac yn awyddus i yrr materion yn eu blaen yn effeithiol
  • Gallu gweithio fel unigolyn ac fel rhan o dîm
  • Sgiliau TG, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint a’r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio - mae’r swydd yn cynnwys teithio ac aros dros nos ar adegau
  • Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol

 

Dymunol

  • Dealltwriaeth ddaearyddol o arfordir a phorthladdoedd Cymru
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector bwyd môr yng Nghymru
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio dwyieithog (Cymraeg/Saesneg), gan gynnwys sgiliau cyflwyno

 

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal (ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk.   

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Caroline Dawson ar 01745 770272 neu 07577 934106.

 

Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth ar ddydd Llun, 25 Chwefror. Os nad yw’r dyddiad yn gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.

Lleoliad

Aberystwyth, Meifod, Caerdydd neu Adref / Cardiff or Home.

Mwy o Wybodaeth

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â

Caroline Dawson
01745 770272 / 07577 934106
caroline.dawson@menterabusnes.co.uk

Gwneud Cais

Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal, ar gael isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma naill ai:

  • dros ebost at: swyddi@menterabusnes.co.uk
  • neu drwy ddanfon at:  Adran Adnoddau Dynol, Menter a Busnes, Uned 3, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 18 Chwefror 2019 am 10:00

Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth

Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth yn y ddogfen isod.