Dyddiad Cau: 20 Awst 2018
Prosiect: Cywain
Lleoliad: Aberystwyth, Caerdydd, Meifod
Adran: Bwyd
Cyflog: 32,300-34,320
Gradd: 5
Rheolwr: Arweinydd Tm Clystyrau / Clusters Team Leader
Cytundeb: Parhaol / Permanent
Sgiliau Ddwyieithog: Manteisiol
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â
Sioned Best
01938 530982

Rheolwr Clwstwr

Cywain

 

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym bellach yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid ychwanegol wedi’i ddiogelu hyd fis Mawrth 2018. Rydym yn aros am gadarnhad a ydym wedi llwyddo yn ein cais am gyllid prosiect newydd o fis Ebrill 2018 hyd fis Hydref 2022. 

 

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gynyddu eu capasiti a’u gallu, hwyluso trosglwyddiad gwybodaeth a gwybodaeth am y diwydiant yn ogystal ag atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Bydd darpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio trwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid.

 

Ceir tair rhain i’r prosiect:

 
  • Cefnogaeth ar gyfer busnesau newydd a microfusnesau

  • Cefnogaeth ddiagnostig ar gael i bob busnes

  • Clystyru a chydweithio rhwng busnesau er mwyn hybu twf busnesau ac effeithlonrwydd

 

Mae clwstwr yn cael ei arwain yn bennaf gan fusnes, lle mae grŵp o gwmnïau’n gweithio yn yr un sector ac yn agos at ei gilydd yn ddaearyddol yn adnabod problemau a chyfleoedd cyffredin. Maent yn canolbwyntio ar gynyddu elfen gystadleuol cwmnïau bwyd a diod Cymreig i’w cynorthwyo i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod at ei gilydd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y byddant yn gweithio arnynt yn amrywio o fynd i’r afael â materion busnes sy’n effeithio ar elfen gystadleuol neu dwf hyd at ganfod marchnadoedd newydd a thyfu marchnadoedd presennol.

 

Mae’r fethodoleg clystyru wedi cael ei beilota gan Menter a Busnes ers 2015, mewn partneriaeth ag Isadran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a’r Clwstwr Bwyd Môr.

 
 

Nod y Rôl

 

Nod y rôl yw: 

  • rheoli amrediad o brosiectau datblygu busnes a marchnata bwyd ar ran aelodau clwstwr

  • gweithredu fel prif bwynt cyswllt o ddydd i ddydd ar gyfer aelodau’r clwstwr bwyd a diod 

  • rheoli prosiectau’n unol â chanllawiau’r Rheolwr Prosiect

  • gweithredu prosiectau o fewn y rhaglen clwstwr a gweithio fel rhan o dîm i gyflawni contractau masnachol penodol

  • sicrhau bod cyllidebau’r rhaglen yn cael eu gwario’n effeithiol

  • monitro a gwerthuso pob prosiect a sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion archwilio

 
 

Prif Gyfrifoldebau

 
  • Sicrhau darpariaeth gwasanaethau’r prosiect i aelodau’r clwstwr

  • Meithrin perthynas agos gyda chynhyrchwyr a phroseswyr i adnabod eu hanghenion ar gyfer twf

  • Gweithio gydag aelodau’r clwstwr i sicrhau bod unrhyw ofynion twf yn cael eu hadnabod a’u gweithredu ar sail un i un neu fel prosiect penodol

  • Paratoi cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn a rheoli adnoddau o fewn cyllideb y prosiect

  • Cydlynu gweithgareddau a rhannu gwybodaeth sy’n deillio o weithgareddau’r clwstwr

  • Creu cysylltiadau gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch, ymchwil, datblygu marchnadoedd newydd yn ogystal â phrynwyr er mwyn sicrhau darpariaeth gydlynol

  • Gweithio’n agos gydag aelodau’r clwstwr i gynllunio, rheoli a gweithredu portffolio o weithgareddau o fewn eu prosiectau megis digwyddiadau/arddangosfeydd ayyb mewn modd proffesiynol, yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau cynnwys perthnasol a deniadol

  • Trefnu a darparu gweithdai’n ymwneud â themâu penodol i’r sector 

  • Adnabod anghenion, cynllunio a chynghori busnes ar eu datblygiad, gan gyfeirio at ffynonellau eraill o gefnogaeth lle bo'n briodol.

  • Annog perchnogaeth o’r clystyrau a’u datblygiad trwy gydol y broses gefnogi gan yr aelodau

  • Rheoli/monitro’r gyllideb a osodir gan y Rheolwr Prosiect, gan sicrhau gwerth am arian a darpariaeth gydlynol lle bo hynny’n bosibl

  • Sicrhau bod gweithgareddau’r clwstwr yn cael eu cynnal mewn modd amserol a bod aelodau’n datblygu gweithgareddau perthnasol sy’n bodloni gofynion eu busnes

  • Parhau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o feysydd arbenigol eraill, gan sicrhau darpariaeth gyfannol i’r cwsmer; ymrwymo i gwblhau unrhyw waith ymchwil, addysg a datblygiad angenrheidiol er mwyn bodloni’r gofynion hyn

  • Cynnal y gronfa ddata

  • Sicrhau bod agweddau o’r cynllun yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n unol â gofynion Llywodraeth Cymru

  • Mynychu arddangosfeydd

 

Monitro a Gwerthuso

  • Sicrhau bod adroddiadau cywir a pherthnasol yn cael eu darparu ar ddiwedd y gwaith gyda phob grŵp/unigolyn a bod deilliannau’n cael eu monitro’n gywir, yn cael eu hadolygu a'u hadrodd i'r Rheolwr Prosiect a Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y cytundeb, ac er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol.

  • Cadw cofnodion manwl o weithgareddau a gwaith papur y clwstwr er mwyn monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru

  • Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod pob dogfennaeth ar gyfer gwaith a gyflawnwyd o fewn y rhanbarth yn gyfredol ac wedi'i gwblhau yn unol â gofynion y cynllun

  • Darparu mewnbwn i unrhyw adroddiadau gwerthuso – perfformiad a bodlonrwydd cwsmer

  • Monitro, adolygu ac adrodd yn ôl ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol

 

Gwybodaeth y Farchnad a Llwybrau i’r Farchnad

  • Adnabod, ymchwilio ac anelu at sicrhau mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad sy’n berthnasol i ofynion buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol.

  • Datblygu a throsglwyddo gwybodaeth am y farchnad i'r gynulleidfa darged ledled Cymru

  • Datblygu a chynnal digwyddiadau addysgiadol yn seiliedig ar weithdai sy’n berthnasol i lwybrau i’r farchnad er mwyn hwyluso twf busnes

  • Darparu cefnogaeth ddilynol i fusnesau a hwyluso datrysiadau i faterion dosbarthu.

  • Sicrhau darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda’r Clystyrau a’r Rheolwr Prosiect

 

Arall

  • Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni

  • Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw

  • Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw

 
 

Sgiliau a Phrofiad

 

Hanfodol

  • Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a dwy flynedd o brofiad gwaith mewn maes perthnasol

  • Profiad dangosadwy o reoli ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn

  • Profiad yn y diwydiant bwyd a dealltwriaeth ardderchog neu brofiad o’r sector amaeth/gwledig/bwyd yng Nghymru

  • Dealltwriaeth dda o ddatblygiadau polisi gan gynnwys polisïau Llywodraeth Cymru

  • Sgiliau trefnu a chydlynu o’r radd flaenaf

  • Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau

  • Gallu asesu a deall anghenion busnesau, a’u gofynion cefnogaeth a mentora

  • Dealltwriaeth dda o gyfrifon busnes a chynlluniau busnes

  • Dealltwriaeth dda o safonau a rheoliadau’r diwydiant

  • Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau ardderchog ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner

  • Person hunanysgogol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer

  • Y gallu i ddadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau

  • Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd

  • Yn gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithiol

  • Yn gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio ardderchog, gan gynnwys sgiliau cyflwyno*

  • Sgiliau technoleg gwybodaeth gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, E-bost a'r Rhyngrwyd

  • Trwydded yrru lawn a defnydd o gar

  • Ar gael i weithio yn ystod penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol

 

Manteisiol

  • Profiad dangosadwy o gynnal ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu

  • Sgiliau rheoli prosiect cryf

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio dwyieithog ardderchog (Cymraeg/Saesneg), gan gynnwys sgiliau cyflwyno

 

*Bydd ymgeiswyr sy’n ymrwymo i ddysgu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg yn derbyn cefnogaeth lawn gan Menter a Busnes i wneud hynny.

 
 

Cyfweliadau

 

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Meifod ar ddydd Iau, 23 Awst 2018. Os nad yw’r dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar y ffurflen gais os gwelwch yn dda.

 

Lleoliad

Aberystwyth, Caerdydd, Meifod.

Mwy o Wybodaeth

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â

Sioned Best
01938 530982

Gwneud Cais

Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal, ar gael isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma naill ai:

  • dros ebost at: swyddi@menterabusnes.co.uk
  • neu drwy ddanfon at:  Adran Adnoddau Dynol, Menter a Busnes, Uned 3, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 20 Awst 2018 am 10:00

Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth

Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth yn y ddogfen isod.