Newyddion

12 Mehefin 2018
Mae mab ffermwr llaeth sydd â diddordeb mawr mewn technoleg wedi ymuno â bwrdd cwmni datblygu economaidd.   Mae Tom Allison o Aberteifi yng ngorllewin Cymru, yn ymuno â Menter a Busnes fel cyfarwyddwr anweithredol sydd â phrofiad helaeth wrth hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg mewn amaethyddiaeth da byw.   Wedi graddio mewn electroneg a pheirianneg drydanol gymhwysol o Brifysgol Bath, dychwelodd Tom adref lle mae wedi cyfuno ei sgiliau technegol gyda’i gariad tuag at fyd amaeth.   Dechreuodd ymweld â safleoedd amaethyddol ledled Cymru i helpu ffermwyr i ddefnyddio technoleg flaengar i wella perfformiad eu ffermydd, gan gynnwys cynnig addasiadau i beiriannau godro er mwyn gwella
23 Mawrth 2018
Mae pedwar busnes sy’n ffynnu yng ngogledd orllewin Cymru wedi canmol Menter a Busnes, cwmni sy’n arbenigo mewn datblygu’r economi, am roi cychwyn da i’w mentrau. Maent yn cynnwys hyfforddwr personol sydd wedi ehangu i gynnal dosbarthiadau ffitrwydd niferus wythnosol yn lleol; ffotograffydd sydd bellach wedi symud i Lundain diolch i'r galw yno; gwerthwraig flodau a ddechreuodd ei gyrfa yn 13 oed ond sydd bellach yn 19 oed ac yn mynd i'r brifysgol i astudio busnes; a chyn ymgynghorydd Adnoddau Dynol sy'n rhedeg dosbarthiadau i blant, 'Sŵn a Sbri' o bedwar lleoliad ac sy’n llawn dop. Mae pob un o'r entrepreneuriaid yn
31 Ionawr 2018
Dyfnder ymgynghoriaeth gan arbenigwyr cymwysedig a gwasanaeth dwyieithog, yw rhai o’r rhesymau y mae gwasanaeth cymorth busnes sy'n tyfu'n gyflym wedi gweld twf sylweddol yn ystod 2017, meddai ei brif weithredwr.   Ac mae Alun Jones, Menter a Busnes yn dweud, mae’r cwmni mewn ‘sefyllfa dda iawn’ i barhau i ddatblygu ei wasanaethau masnachol a chofrestru mwy o gwsmeriaid newydd, diolch i gytundebau tymor hir, er y cyfnod o ansicrwydd disgwyliedig.   Nododd hefyd, ymhlith y tueddiadau diweddar, bod parodrwydd cynyddol ymysg busnesau Cymru i fabwysiadu agwedd meddwl agored er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd.   Roedd Mr Jones hefyd yn rhagweld y gallai datblygu cynhyrchiant mewn
Prosiect: Agora
31 Ionawr 2018
Gall busnesau newydd a busnesau bach sydd ynghlwm â’r tir sy'n awyddus i arallgyfeirio a chreu ffrwd incwm newydd gael cyngor arbenigol am ddim trwy gynllun sydd newydd ei lansio.   Mae Agora yn brosiect dwy flynedd sydd yno i helpu cynhyrchwyr nwyddau gaiff eu tyfu, eu pori neu eu gwneud o fewn 11 ardal awdurdod lleol yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru.   Mae unrhyw fath o fusnes sydd ynghlwm â’r tir - boed yn gynhyrchydd bwyd neu ddiod, neu’n creu eitemau pren neu wlân, yn gymwys i ymgeisio i ymuno â'r cynllun. Bydd cefnogaeth ar gael i helpu 240 o ddefnyddwyr dros y
18 Ionawr 2018
Ymddangosodd Carn Edward, cynhyrchwyr cig oen Cymreig ac eidion hirgorn yn Sir Benfro, ar Jamie and Jimmy’s Friday Night Feast, Channel 4 dros y Nadolig. Roedd y bennod, a ddarlledwyd ar 22ain Rhagfyr 2017, yn hyrwyddo cig dafad, yn dangos y gorau sydd gan gig dafad Cymreig i’w gynnig ac yn cynnwys prydau gan Jamie Oliver megis peli kofta a lolipops cig dafad.   Dywedodd Robert Vaughan, un o ffermwyr Carn Edward: "Roedden ni’n falch iawn fod Channel 4 wedi cynnig y cyfle i rannu gwybodaeth am gig dafad, a hynny i gynulleidfa mor fawr. Roedd yn rhaid inni gadw'r ymddangosiad yn

Our latest tweets

Swyddi Menter a Busnes yn cael eu hysbysebu yma, dewch i gael sbec #cywain #swyddi https://t.co/kYF5LyfdhQ
Croeso cynnes i Tom Allison sy'n aelod newydd o fwrdd Menter a Busnes A warm welcome to Tom Allison as a new member… https://t.co/iBAuXpKU0Y