Cyfarwyddwr AD Menter a Busnes ar Restr Fer Gwobrau Institute of Directors - Cymru

04 Mai 2017

Mae Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y cwmni wedi cael ei henwebu yng ngwobrau Institute of Directors – Cymru yng nghategori ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Adnoddau Dynol’, ac yn un o bedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn.

 

Mae’r gwobrau yn eu seithfed flwyddyn erbyn hyn, ac yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr busnes Cymru sydd yn dathlu arweinwyr ysbrydoledig a llwyddiannau busnes.  Mae 10 categori gwahanol flwyddyn yma, gyda 3 categori newydd wedi cael eu creu, gan gynnwys ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn - Adnoddau Dynol.’   Bydd enillwyr yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi mewn cinio gwobrwyo yn Stadiwm SSE SWALEC, Caerdydd ar y 19eg o Fai.

 

Bydd enillwyr Gwobrau Rhanbarthol Cymru (a noddwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd) yn cael eu cynnwys yng ngwobrau Cenedlaethol IoD yn Llundain yn yr Hydref.

 

Dywedodd Corinna ‘Mae’n anrhydedd i gyrraedd rhestr fer gwobrau IoD Cymru yn y categori Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn. Mae Menter a Busnes yn buddsoddi’n sylweddol yn ei ymarferion rheoli a datblygu pobl ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o dîm AD y cwmni.’

 

 

Pob lwc Corinna! 

Our latest tweets

Looking for a job? #menterabusnes have jobs being advertised at the moment, click here to see more -… https://t.co/QT4XwKxdlj
Chwilio am swydd? Mae #menterabusnes yn hysbysebu nifer o swyddi ar hyn o bryd. Cliciwch yma i'w gweld -… https://t.co/W7Yt2pbUy3
Cylchlythyr cyntaf @agora_mab wedi cael ei gyhoeddi. Dewch i gael sbec - https://t.co/GRTVtRKICD @agora_mab's firs… https://t.co/HXk4u8f1Aq