Straeon

08 Mehefin 2017
Daeth Cywain Gwenyn yn ymwybodol o Katie Hayward a chwmni Felin Honeybees Ltd am y tro cyntaf yn 2015. Roedd Katie yn gweithio llawn amser fel Swyddog Iechyd a Diogelwch ar y pryd, gydag uchelgais i weithio fel gwenynwr llawn amser ar ei fferm yng Nghemlyn, Ynys Môn.  Roedd hi wedi bod yn cadw gwenyn ers 17 mlynedd ac roedd yn chwilio am gefnogaeth i ddatblygu ei chynllun busnes er mwyn cynyddu nifer y cychod gwenyn a’r mêl yr oedd yn ei gynhyrchu, yn ogystal ag addysgu’r cyhoedd a thirfeddianwyr ynglŷn â gwenyn mêl a pheillio.   Trwy gronfa fentora a oedd