Newyddion

23 Mai 2016
Mae un o brif gwmnïau datblygiad economaidd Cymru yn rhybuddio y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith negyddol a phellgyrhaeddol ar fusnesau yng Nghymru ac yn niweidio’r diwydiant amaethyddiaeth sy’n hanfodol i’r wlad. Mae Menter a Busnes (MaB), wedi’i leoli yn Aberystwyth gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Bangor a Llanelwy, wedi bod yn ymwneud â chefnogaeth a datblygiad busnesau bach a chanolig a’r sector amaeth yng Nghymru ers sefydlu’r cwmni 27 mlynedd yn ôl. Mae wedi datblygu a gweithio ar brosiectau sy’n cael eu hariannu gan gronfeydd Ewropeaidd yn ac wedi gweld y manteision i fusnesau ac amaethyddiaeth drwy gydol y
21 Ionawr 2016
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wedi rhyddhau'r datganiad canlynol i lansio'r Rhaglen Cymorth TB:  Mae TB yn parhau i effeithio’n sylweddol ar ffermydd unigol ac ar y diwydiant yn gyffredinol.  Mae’r frwydr yn erbyn TB gwartheg yn dechrau ar gyfnod newydd hollbwysig.  Mae llwyddiant ein polisi profi blynyddol bellach wedi arwain at bum mlynedd o ddata am y clefyd yng Nghymru, ac mae hyn wedi’i gadarnhau gan y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud o dan y prosiect epidemioleg TB.  Mae’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, gan gynnwys rhaglen beilot Cymorth TB, wedi dangos mai’r ffordd
30 Tachwedd 2015
Mae Menter a Busnes, un o gwmnïau datblygu busnes annibynnol mwyaf llwyddiannus Cymru, wedi atgyfnerthu’r bwrdd trwy benodi dwy gynrychiolydd blaenllaw ym meysydd y gyfraith a datblygu busnes. Mae Fflur Jones, Partner gyda chwmni Darwin Gray yng Nghaerdydd a Rhian Owen, cyd-sefydlydd busnes pobi Siwgr a Sbeis yn Llanrwst, wedi cael eu pendodi’n gyfarwyddwyr anweithredol. Mae Menter a Busnes yn un o gwmnïau datblygu bunses ac economaidd annibynnol mwyaf llwyddiannus Cymru ac ers ei sefydlu ym 1989, mae'n llunio ac yn datblygu amrywiaeth eang o’i raglenni busnes ei hun ar gyfer busnesau, mentergarwch, sgiliau ac arloesedd a datblygiad mewn sectorau amrywiol, o amaeth i

Our latest tweets

#swydd: Swyddog Datblygu - Gwyr a Chymoedd y De | Caerdydd | Cyswllt Ffermio | Dyddiad Cau: 12.07.17 #MaB https://t.co/RuZvq2MtTf
#job: Development Officer - Gower and South Wales Valleys | Cardiff | Farming Connect | Closing Date: 12.07.17 #MaB https://t.co/mnPWnmo8g3
Gwahoddiad: Cywain Amaeth / Cywain Agriculture: Invitation 05/07/17 Gweler y linc isod / Please see below link https://t.co/82JRuJAbYT
Llongyfarchiadau enfawr i Arthur Jones ar ei lwyddiant! Diolch i'r @EisteddfodUrdd am gael bod yn rhan #urdd2017https://t.co/udJ1rluEz7