Newyddion

Prosiect: Cywain
19 Gorffennaf 2017
Bydd y nifer uchaf erioed o gynhyrchwyr bwyd a diod bychain yn arddangos yn Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru (Gorffennaf 24-27) am y tro cyntaf diolch i Cywain, prosiect sy’n cefnogi bwyd-amaeth.   Yn ystod pedwar diwrnod y Sioe, bydd 16 o gynhyrchwyr yn gosod eu stondin yn y Neuadd Fwyd am y tro cyntaf. Mae’r cynnyrch yn amrywio o dryffls a finegr mêl i wyau selsig a dŵr ffynnon.   Bydd y cynhyrchwyr yno dan nawdd Cywain – prosiect sy’n helpu marchnadoedd newydd i ddatblygu yn y sector bwyd-amaeth.   Mae’r Neuadd Fwyd yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Sioe Frenhinol Cymru ac mae degau
27 Mehefin 2017
Athro ym maes Strategaeth ac Arloesedd gyda Phrifysgol De Cymru oedd Martin Rhisiart wrth ei alwedigaeth ac fe ymunodd gyda Bwrdd Menter a Busnes fel cyfarwyddwr anweithredol yn 2011.  Fe gyfrannodd yn gyson i gyfeiriad a datbygiad y cwmni dros y 6 mlynedd diwethaf.  Roedd yn economegydd craff gyda arbenigedd mewn mewnwelediad i’r farchnad a dyfodolion (futures) ac roedd ei ddadansoddiadau ynghylch tueddiadau sectorol wastad yn ddifyr ac yn pryfocio’r meddwl.   Roedd yn sicr o’i gymreictod ac yn gyfrannwr cyson ar y cyfryngau Cymreig ar bynciau yn amrywio o’r economi i glwb pêl droed Caerdydd!  Roedd yn angerddol dros ddatblygiadau
Prosiect: Cywain
16 Mehefin 2017
Bydd dau frand llaeth Cymreig cyffrous yn lansio ym Marchnad Ffermwyr Aberystwyth dydd Sadwrn yma (Mehefin 17eg).   Bydd cwmni Defaid Dolwerdd, cynhyrchydd caws o laeth defaid, sydd â chaws newydd o fath halloumi, a’r cynhyrchydd llaeth crai, Penlan y Môr, yn cymryd eu camau cyntaf yn y farchnad gyda’u brandio newydd.   Mae’r ddau gynhyrchydd wedi derbyn cymorth gan Cywain - prosiect sy’n cefnogi datblygu marchnadoedd newydd yn y sector bwyd-amaeth.   Dywedodd Nia Môn, Rheolwr Datblygu Cywain, “Rydym yn hynod falch bod cynhyrchwyr lleol yn ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy lwybrau gwahanol i’r farchnad.  Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn blatfform gwych i gyflwyno’r
Prosiect: Cywain
04 Mai 2017
Os ydych yn trefnu gŵyl neu ddigwyddiad bwyd yng Nghymru ac angen cymorth ariannol, mae ffenest gyntaf i wneud cais ar gyfer cynllun grant Twf Busnes Strategol: Digwyddiadau Bwyd a Diod Cymru gan Is adran Fwyd Llywodraeth Cymru bellach ar agor.    Mae linc i’r canllawiau a chopi o’r ffurflen gais ar gael ar waelod y dudalen yma.  Bydd dwy ffenest ar gyfer cyflwyno ceisiadau, gyda’r ffenest gyntaf yn cau 18fed Fai 2017 a’r ail ffenest yn cau 1af Orffennaf 2017.    Rheolir a gweinyddir cynllun 2017 gan Menter a Busnes ar ran Is Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r broses neu
04 Mai 2017
Mae Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y cwmni wedi cael ei henwebu yng ngwobrau Institute of Directors – Cymru yng nghategori ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Adnoddau Dynol’, ac yn un o bedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn.   Mae’r gwobrau yn eu seithfed flwyddyn erbyn hyn, ac yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr busnes Cymru sydd yn dathlu arweinwyr ysbrydoledig a llwyddiannau busnes.  Mae 10 categori gwahanol flwyddyn yma, gyda 3 categori newydd wedi cael eu creu, gan gynnwys ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn - Adnoddau Dynol.’   Bydd enillwyr yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi mewn cinio gwobrwyo yn

Our latest tweets

#swyddi Prosiect Cadwyni Cyflenwi Lleol. Nifer o swyddi i'w gweld ar wefan @menterabusnes dewch i gael sbec! https://t.co/skcToTlHq9
#jobs Local Supply Chains Project. Jobs are now being advertised on the @menterabusnes website. Come take a look! https://t.co/hTisxvIP0W
Dathliadau Diwrnod @ShwmaeSumae yn @menterabusnes heddiw. Unrhyw esgus i flasu cynnyrch gwerth chweil Cymreig yn y… https://t.co/DnZncoHCGu
Penblwydd hapus yn 5 oed @ShwmaeSumae gan bawb yn @menterabusnes Mi fyddwn yn dathlu gyda chi heddiw!