TÓm Adnoddau Dynol Menter a Busnes ar Restr Fer Gwobrau AD Cymru

22 Mawrth 2017

Mae tîm AD y cwmni wedi cael eu henwebu yng nghategori’r Defnydd Gorau o’r Iaith Gymraeg ym maes AD (Tîm) am eu rôl wrth integreiddio gwerthoedd Iaith Gymraeg Menter a Busnes yn eu harferion rheoli a datblygu pobl, ac mae’n un o dri thîm sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn.

Cafodd y Gwobrau eu creu gan Rwydwaith AD Cymru, cyfle rhwydweithio blaengar ar gyfer gweithwyr AD proffesiynol, mewn partneriaeth â chwmni cyfreithiol Darwin Gray sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac Acorn, asiantaeth recriwtio a hyfforddiant arbenigol Cymru.

Mae'r gwobrau wedi cael eu creu er mwyn cydnabod a dathlu cyraeddiadau gweithwyr AD proffesiynol, a bydd seremoni ffurfiol a gynhelir yn Stadiwm SSE SWALEC, Caerdydd ar y 23ain o Fawrth.

Sian Lloyd, un o gyflwynwyr teledu’r BBC fydd yn cyflwyno’r digwyddiad, un o’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae’r digwyddiad wedi cael ei groesawu gan fusnesau blaengar ledled y wlad.

Mae'r tîm Adnoddau Dynol yn cynnwys Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr AD Menter a Busnes, ynghyd a'i chydweithwyr Elaine Davies a Gwenno Humphreys.

Dywedodd Corinna:  “Mae Menter a Busnes yn gwmni cwbl ddwyieithog ac rydym yn ymfalchïo mewn gosod y safon ar gyfer cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n hanfodol felly ein bod ni, fel tîm AD y cwmni, yn anelu at hwyluso amgylchedd gwaith lle bo staff yn ymwybodol y gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle’n hyderus.”

Pob lwc i'r tîm! 

Our latest tweets

Join @DarwinGrayLLP & @_BusinessWales for a free business growth workshop at the National Library of Wales on 18/01… https://t.co/uPgXMo3qLy
Ymunwch √Ę @DarwinGrayLLP a @_busnescymru am weithdy twf busnes am ddim yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 18/01/18 https://t.co/HfK1OSyQgO
Join @DarwinGrayLLP & @_BusinessWales for a free business growth workshop at the National Library of Wales on 18/01… https://t.co/RYIfNMggOr
Diddordeb mewn Amaethyddiaeth? Chwilio am her newydd? Pam ddim ymgeisio am swydd Swyddog Datblygu Gogledd Ceredigio… https://t.co/2NMzOapCBr