Sylwadau ar Gyllideb Y Gwanwyn

08 Mawrth 2017

Y Gyllideb yn gryno - dim byd sydd yn ysgwyd y gwch ond yn debygol o effeithio fwyaf ar yr hunangyflogedig a busnesau bach.

Mae'r Canghellor wedi awgrymu fod yr economi yn perfformio'n well na'r hyn broffwydwyd yn 2016, ond mae'n parhau i boeni am lefel y benthyciadau. Er bod y raddfa yn gostwng, gyda’r cyfanswm yn debygol o fod yn £100bn yn uwch erbyn 2020, yr oedd y gyllideb o ganlyniad yn un gofalus iawn ac yn awgrymu fod angen rheoli gwariant cyhoeddus.

Un o'r prif gyhoeddiadau sy’n effeithio ar fusnesau yw codi Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ar gyfer y rhai hunangyflogedig i 10% yn Ebrill 2018 ac yna i 11% yn Ebrill 2019. Bydd hyn yn codi £145m i'r pwrs cyhoeddus erbyn 2020. Mae’n bwnc dadleuol gan ei fod yn mynd yn groes i beth oedd ym maniffesto'r blaid Geidwadol adeg yr etholiad.

Dim byd annisgwyl ar drethi. Mae'r lwfans treth bersonol yn codi o £10,600 i £11,500 fel awgrymwyd yn flaenorol, a'r trothwy enillwyr uwch yn codi o £43k i £45k. Mae'r dreth gorfforaethol yn gostwng o 20% i 19%.

Yr un i’w wylio yng Nghymru yw trethi busnes - gyda gostyngiad o £1000 i dafarndai a chap ar unrhyw godiadau i drethi ar fusnesau bach yn Lloegr, a wnaiff Cymru ddilyn? Gan fod y mater wedi’i ddatganoli, mae'n debygol bydd Cymru yn cael rhywfaint o gyllideb ychwanegol i ymateb i hyn.

Cynnydd o £200m dros bedair blynedd i gyllideb Llywodraeth Cymru yn swm pitw wrth ystyried y cynnydd mewn gwariant yn Lloegr.

Byddai mwy o sicrwydd ar brosiect Tidal Lagoon yn Abertawe wedi cael ei groesawu -yn hytrach na dweud eu bod yn parhau i drafod ac ystyried adroddiadau.

Dim datganiadau syfrdanol, ond mae mwy angen ei wneud i sicrhau bod ysbryd mentergarwch yn parhau i fod yn gryf yng Nghymru.

Our latest tweets

Awydd her newydd? Cymerwch gipolwg ar ein swyddi diweddaraf: https://t.co/o771LfOgR5
Huge congratulations to our Director Eirwen Williams who was awarded last night by the Royal Agricultural Societies… https://t.co/aHNKUcStRp
Llongyfarchiadau i'n Cyfarwyddwr Eirwen Williams ar ei gwobr neithiwr gan y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol - da… https://t.co/jB4M7fJOiz
@wgcs_enviro addressing @FarmingConnect Agri Academy alumni. Well done to everyone that has taken part & good luck… https://t.co/g0MqoY2oa1