Cyfarwyddwr AD Menter a Busnes ar Restr Fer Gwobrau Institute of Directors - Cymru

04 Mai 2017

Mae Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y cwmni wedi cael ei henwebu yng ngwobrau Institute of Directors – Cymru yng nghategori ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Adnoddau Dynol’, ac yn un o bedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn.

 

Mae’r gwobrau yn eu seithfed flwyddyn erbyn hyn, ac yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr busnes Cymru sydd yn dathlu arweinwyr ysbrydoledig a llwyddiannau busnes.  Mae 10 categori gwahanol flwyddyn yma, gyda 3 categori newydd wedi cael eu creu, gan gynnwys ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn - Adnoddau Dynol.’   Bydd enillwyr yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi mewn cinio gwobrwyo yn Stadiwm SSE SWALEC, Caerdydd ar y 19eg o Fai.

 

Bydd enillwyr Gwobrau Rhanbarthol Cymru (a noddwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd) yn cael eu cynnwys yng ngwobrau Cenedlaethol IoD yn Llundain yn yr Hydref.

 

Dywedodd Corinna ‘Mae’n anrhydedd i gyrraedd rhestr fer gwobrau IoD Cymru yn y categori Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn. Mae Menter a Busnes yn buddsoddi’n sylweddol yn ei ymarferion rheoli a datblygu pobl ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o dîm AD y cwmni.’

 

 

Pob lwc Corinna! 

Our latest tweets

#swydd Cynorthwyydd Cyllid | Aberystwyth | Cyswllt Ffermio | Dyddiad Cau: 13.11.17 https://t.co/ynfrq0q2es #cyswlltffermio
#job Finance Assistant | Aberystwyth | Farming Connect | Closing Date: 13.11.17 | https://t.co/DwbVqvT82W #farmingconnect
Galw cwmnïau ymchwil - mae cyfle gennym yn cael ei hysbysebu ar wefan @Gwerthwch: https://t.co/O6xBaQs8pt
Calling research companies - we have an opportunity advertised on @_Sell2Wales: https://t.co/O6xBaQs8pt