A yw gadael yr UE yn golygu y gellir bellach rhoi polisi 'prynu o Gymru' mewn lle?

15 Gorffennaf 2016

Mae Iestyn Gruffudd, ymgynghorydd caffael gyda Mabis, rhan o gwmni datblygiad economaidd yng Nghymru, yn edrych ar effaith posib y penderfyniad i adael yr UE ar gaffael yn y sector cyhoeddus ar draws y DU.

Yn dilyn penderfyniad y DU i dorri cysylltiad gyda’r UE, mae’n anochel y bydd newidiadau pellgyrhaeddol i nifer o gyfreithiau’r DU, yn enwedig y rhai sy’n deillio o ddeddfwriaeth yr UE. Ymysg y cwestiynau sy’n cael eu holi gan nifer o arweinwyr busnes nawr yw a fydd Llywodraeth y DU ar ei newydd wedd yn manteisio ar y cyfle i waredu neu newid y prosesau caffael a ystyrir yn aml i fod yn “anhyblyg, cymhleth ac yn rhwystr i arloesedd”, a chanolbwyntio ar roi cytundebau lleol i fusnesau lleol.

Bydd unrhyw newidiadau yn araf

Hyd yn hyn, mae canlyniad y refferendwm wedi agor y drws i nifer o gwestiynau a thipyn o ddirgelwch. Mae’r ffaith hon, yn ogystal â chyfnod o ddwy flynedd neu ragor sydd ei angen ar gyfer trafodaethau unwaith y bydd Erthygl 50 wedi’i sbarduno, yn golygu y bydd y rheoliadau caffael yn debygol o aros yr union yr un fath yn y tymor byr i’r tymor canolig. Mae hefyd yn annhebygol o fod yn un o flaenoriaethau gwneuthurwyr polisi yn syth chwaith, gan eu bod yn wynebu’r her hynod anodd o adolygu ac ailffurfio cannoedd o gyfreithiau sydd wedi eu llunio dros y deugain mlynedd diwethaf.

Mae deddfwriaeth y DU eisoes mewn lle

Er na fydd Cytuniad yr UE a Chyfarwyddeb Caffael yr UE bellach yn berthnasol i’r DU unwaith y bydd y DU wedi gadael yn gyfan gwbl, mae gofynion sylfaenol rheoliadau caffael yr UE eisoes wedi cael eu trosi i gyfraith y DU ers  y 26ain o Chwefror 2015, a byddant yn parhau i fod yn  gyfreithiol rwymol. Hyd yn oed pe byddai newidiadau’n cael eu gweithredu yn y pen draw, maent yn debygol o fod yn debyg iawn i’r drefn bresennol yn gyffredinol.

Gan edrych yn ôl i’r dyddiau cyn i reoliadau caffael yr UE gael eu rhoi mewn lle’n wreiddiol, roedd y DU eisoes wedi cyflwyno mesurau megis gofyn am dendro cystadleuol gorfodol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae rheoliadau’r DU dros y blynyddoedd hefyd wedi mynd i’r afael â gwendidau yn y system, megis sicrhau bod dull mwy cyson yn cael ei fabwysiadu ar draws cyrff sector cyhoeddus. Mae hefyd yn werth amlygu bod llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi mynd heibio’r gofynion sylfaenol a roddwyd gan Gyfarwyddebau Caffael wrth roi’r Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus (2015) mewn lle, gan awgrymu bwriad clir ac awydd i barhau i reoli’r maes hwn yn ofalus.

Gwerth am arian a diwydrwydd dyladwy

Mae’n werth cadw mewn cof pam bod y rheolau hyn wedi cael eu gosod yn lle cyntaf. Mae’n ymwneud â sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am wario arian trethdalwyr yn gwneud hynny mewn modd gwrthrychol, cyfrifol a thryloyw, ac yn cael y gwerth gorau posib am arian. Hyd yn oed pe byddai’r ddeddfwriaeth bresennol yn cael ei gwaredu, neu ei thorri’n sylweddol, ceir dadl bod y egwyddorion wedi dod yn gymaint o ran o’r sector cyhoeddus fel eu bod yn annhebygol o addasu i arddull nad yw’n cael ei reoleiddio neu ddim yn cael ei reoleiddio’n ddigonol.

Mae’n hanfodol felly bod busnesau’n parhau i ganolbwyntio ar gynhyrchu ceisiadau a thendrau sy’n amlinellu eu haddasrwydd, eu cryfderau a’u gallu’n gryf, yn hytrach na disgwyl derbyn gwaith o ganlyniad i fod yn ddarparwr lleol.

Os ydym ni’n dymuno masnachu gyda’r UE, bydd angen i ni gydgyfnewid

Ymysg yr anrhefn ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm, mae nifer o awgrymiadau wedi cael eu gwneud y bydd y DU yn ceisio parhau’n rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, mewn trefniant tebyg i Norwy. Mewn trefniant o’r fath, ceir dadl y bydd y DU yn dal i allu elwa o symudiad rhydd pobl, nwyddau a gwasanaethau ym marchnad fewnol yr Undeb Ewropeaidd, heb y pwysau a ddaw gydag aelodaeth lawn. Y gwirionedd fodd bynnag yw y byddai’n rhaid i’r DU barhau i ddilyn rheolau caffael y DU er mwyn gallu cymryd rhan yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Yr unig wahaniaeth mewn trefniant o’r fath fyddai na fyddai gan y DU bellach lais na dylanwad wrth siapio rheoliadau caffael creiddiol yr UE y mae gofyn iddynt eu dilyn.

Dylai caffael gefnogi’r economi leol

Er ei fod yn wir fod rheolau’r UE yn canolbwyntio ar sicrhau marchnad sengl ar draws Ewrop, ac felly nid yn caniatáu polisi “prynu yng Nghymru”, nid yw’n wir dweud nad oes modd ffafrio cynhyrchwyr cenedlaethol. Er enghraifft, mae cyfraith yr UE yn ystyried materion megis creu swyddi, hyfforddiant, trechu diweithdra a chefnogi grwpiau dan anfantais yn faterion haeddiannol i’w hystyried fel modd o ychwanegu gwerth mewn penderfyniadau caffael. Y prif wahaniaeth yw sut mae agweddau o’r cyfreithiau’n cael eu dehongli, ac mae achos i ddadlau bod Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi bod yn fwy gweithredol o ran ystyried materion economaidd ehangach fel rhan o’u gweithgareddau caffael na Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliadau i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru ymdrin â materion caffael mewn modd cymesur er mwyn sicrhau bod cyfleoedd cytundeb yn cael eu rhannu’n ddarnau sy’n diogelu nad yw cyflenwyr lleol yn cael eu hatal rhag ennill cytundebau’n unigol. Ceir hefyd disgwyliad i weithredu Buddion Cymdeithasol ar bob gweithgaredd caffael, waeth beth fo’i werth, ac mae angen methodoleg cofnodi fwy llym ar wariant o £1 miliwn a throsodd. Mae hyn yn cynorthwyo i sicrhau bod gwerthoedd cymdeithasol megis cyfleoedd cadwyn cyflenwi ar gyfer isgontractwyr neu gynlluniau prentisiaeth yn cael eu gweithredu er budd cymunedau cyfagos.

Er bod bwriad clir yn yr uchod, mae gweithredu arno’n fater arall, gan fod tystiolaeth yn awgrymu bod arddull anghyson yn dal i gael ei weithredu ledled Cymru. Un o’r rhesymau pennaf dros hynny yw’r ffaith nad yw’r egwyddorion eu hunain yn statudol, gan olygu eu bod yn cael eu hanwybyddu neu’n cael eu tan-weithredu. Gellir defnyddio’r broses caffael fel modd o gefnogi busnesau bach a chanolig, os bydd yn cael ei ddefnyddio’n iawn. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen i Gymru ddefnyddio’r pwerau sydd eisoes mewn lle i gyflwyno deddfwriaeth gadarn sydd â’r awch angenrheidiol i sicrhau ei fod yn digwydd.

Mae Iestyn Gruffudd yn rheoli tîm tendro Mabis, sy’n cynnig gwasanaethau cefnogi busnes gan gynnwys cyngor ac arweiniad tendro, gwasanaethau cyfieithu a gwasanaethau AD ymgynghorol. Gellir cysylltu ag Iestyn trwy ffonio 02920 467 412, anfon e-bost at tendro@mabis.cymru neu ar Twitter@mabistendro. 

Our latest tweets

Awydd her newydd? Cymerwch gipolwg ar ein swyddi diweddaraf: https://t.co/o771LfOgR5
Huge congratulations to our Director Eirwen Williams who was awarded last night by the Royal Agricultural Societies… https://t.co/aHNKUcStRp
Llongyfarchiadau i'n Cyfarwyddwr Eirwen Williams ar ei gwobr neithiwr gan y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol - da… https://t.co/jB4M7fJOiz
@wgcs_enviro addressing @FarmingConnect Agri Academy alumni. Well done to everyone that has taken part & good luck… https://t.co/g0MqoY2oa1